View Full Version : Tim am Lloegr
Kelf_
18-02-2012, 11:15 AM
Yn cymryd fod pawb yn y garfan yn holliach, be byse'ch tim chi i wynebu'r Saeson?
Byswn i'n dewis:
15 Halfpenny
14 Cuthbert
13 JD
12 Roberts
11 Gogzilla
10 Priestland
9 Phillips
8 Faletau
7 Warburton
6 Lydiate
5 AWJones
4 Evans
3 Adam
2 Rees
1 Gethin
Bennett
James
Ryan
Tipuric
Williams
Henson
Hook
Mae'r tim yn mwy neu lai yn pigo ei hun.
Yr unig newid baswn yn neud i dy tim fydd cadw Ryan yn yr ail rheng a rhoi AWJ ar y fainc.
Y Fferret
20-02-2012, 11:29 AM
Mae'r tim yn mwy neu lai yn pigo ei hun.
Yr unig newid baswn yn neud i dy tim fydd cadw Ryan yn yr ail rheng a rhoi AWJ ar y fainc.
Cytuno, gyda un newid arall ar y fainc. Cadw Williams ar y fainc yn lle Henson. Falle geith Henson ei gyfle o'r fainc yn erbyn Yr Eidal.
cornelius
20-02-2012, 02:21 PM
Fel ddywedodd Sox mae'r pymtheg bron a dewis ei hunan.
Faswn yn pigo AWJ a Scott Williams ar y fainc ac mae'n edrych mwy tebygol fod Ken Owens yn mynd i ddechra neu bod ar y fainc?
Ydi George bach yn siwr i ddechra?
Y Fferret
20-02-2012, 03:18 PM

Mae'n edrych fel ny...
http://www.walesonline.co.uk/rugbynation/rugby-news/2012/02/20/wales-six-nations-injury-update-george-north-hands-warren-gatland-fitness-boost-but-huw-bennett-set-to-miss-out-91466-30368305/
Y Fferret
21-02-2012, 01:50 PM
Mae'n edrych fel oedd Kelf yn iawn...
Ryan yn anlwcus iawn weden i.
Dwi ffaelu aros tan dydd Sadwrn nawr... mae'r tocyn gen i yn barod (wel, gyda'n ffrind i...) - nawr dim ond chwarae i'n potential sydd angen!
Naeth rhywun ar y wefan hon dweud taw ein buddugoliaeth mwya yn Nwhickenam oedd 12 pwynt... o'n i na pan collon ni yn 2007 cyn Cwpan y Byd, bydde ein buddugloiaeth mwya byth yn neud lan amdani!
cornelius
22-02-2012, 08:45 AM

Wel ffwcia fi y cont lwcus!!
Cymera lymiad bach i mi pan ti'n dathlu ein buddugoliaeth anferthol, hanseol hwylus pnawn dydd Sadwrn.
The Dude
22-02-2012, 01:12 PM
Yr unig safle sydd yn poeni fi yn yr tim ydi'r bachwr, Ken Owens, ac sut fydd y llichio i'r llinell.
cornelius
22-02-2012, 02:08 PM
Yr unig safle sydd yn poeni fi yn yr tim ydi'r bachwr, Ken Owens, ac sut fydd y llichio i'r llinell.
Mae Ken medru taflu fel Jockey Wilson ar ei orau. So paid a poeni hen gyfaill?
Y Fferret
22-02-2012, 02:10 PM
Bydd Ken yn iawn, dwi'n siwr.
Kelf_
23-02-2012, 03:24 PM
tim lloegr yn edrych yn olreit. Cicio am 80 munud iddyn nhw. Soi'n gweld hwna'n gweithio - fydd rhaid iddyn nhw chasio'n galed iawn, ac un cic gwael a fydd cuthbert neu gogzilla yn eu cosbi nhw. Cymru o 14 dwi'n dweud.
Mae'r nawdegau wedi gwneud gormod o fraint i mi.... wnai byth BYTH fod yn hyderus tra'n chwarae Loegr
cornelius
24-02-2012, 09:22 AM
Mae'r nawdegau wedi gwneud gormod o fraint i mi.... wnai byth BYTH fod yn hyderus tra'n chwarae Loegr
Rho blwyddyn neu ddau iddi Sox a hyderus bydd yr unig ffordd i deimlo!
The Dude
24-02-2012, 11:53 AM
Mae'r nawdegau wedi gwneud gormod o fraint i mi.... wnai byth BYTH fod yn hyderus tra'n chwarae Loegr
Mae'r hen gath yn dweud y gwir ...
<iframe width="420" height="315" src="http://www.youtube.com/embed/qqTHWSqxbfk" frameborder="0" allowfullscreen></iframe>
Kelf_
24-02-2012, 12:50 PM
Mae'r hen gath yn ddoeth iawn.
Bron i'r gath newid fy meddwl ynglyn a cathod... bron.
Kelf_
02-03-2012, 10:28 AM
Bron i'r gath newid fy meddwl ynglyn a cathod... bron.
lol wastad trysto'r cathod.
vBulletin® v3.8.4, Copyright ©2000-2013, Jelsoft Enterprises Ltd.