PDA

View Full Version : Cawr / John Puw


UKHamlet
04-11-2010, 07:34 AM
John Puw

http://www.cantorioncolinjones.com/JP.jpg


Ymladdodd John yn erbyn Clefyd y Niwronau Motor am bum mlynedd. Arhosodd yn siriol a ffyddiog drwy’r amser, wedi’i gynnal gan ei gariad angerddol tuag at ei deulu a’i gerddoriaeth, a chan ei sicrwydd diymwâd y darganfyddir iachâd i’r clefyd.

Ganwyd John i deulu amaethyddol yn Abergynolwyn, Merionnydd, ond, er ei fod yn hoffi ffermio, rhoddodd ei fryd ar fod yn ganwr. Dysgodd ei grefft trwy’r ffordd draddodiadol o gapel, eisteddfodau lleol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion am dair blynedd, gan hogi ei grefft yno ar gyfer gyrfa ym myd opera.

RIP John

Prysiau
04-11-2010, 08:31 PM
Gorffwys mewn hedd, John.

Y Fferret
04-11-2010, 11:59 PM
Gorffwysa mewn hedd

cornelius
05-11-2010, 11:56 AM
Cana hefor angylion Cawr.

Wedi ei fyw y mae dy fywyd, dy rawd
wedi ei rhedeg hefyd;
daeth awr it fynd i'th weryd,
A daeth i ben deithio byd.

Damnation and Eedjfire
05-11-2010, 12:46 PM
Bummer, nice bloke John as well. Condolences to his family and friends, RIP Cawr. Damn good voice as well.

TYLLUANCWMCOWLYD
05-11-2010, 01:07 PM
'Roedd yn flin iawn'da fi i glywed am Cawr. Un o "hoelion wyth" y bwrdd ers y dyddiau cyntaf.
Cwsg mewn hedd.

The Dude
08-11-2010, 09:45 PM
Diolch am dy gwmpeini, John ac am dy dealltwriaeth tuag at y gem. Mi oedd dy dealltwriaeth yn well na un fi... Sydd ddim yn anodd, a dweud y gwir.
Un peth sy'n sicr, mi fysa chi ddim wedi cymeryd collad mwya' ddiweddar Cymru mor ddrwg a'r gweddill ohonom ni. Er hynny, dwi'n disgwyl bod wnaethoch chi wylio'r gem o ddechrau i ddiwedd, heb anghofio am ganu Hen Wlad Fy Nhadau yn well na neb arall i fynu fana.
Unwaith eto, diolch am dy gwmpeini ac am dy gyfeillgarwch, Cawr.
Cwsg a gwyn dy Fyd.
Vaughan.

The Dude
28-04-2011, 08:26 PM
Penblwydd Cawr oedd o heddiw, fy ffrindiau ...
<iframe width="480" height="390" src="http://www.youtube.com/embed/z7y9hBCgtCY" frameborder="0" allowfullscreen></iframe>

Western Osprey
08-05-2011, 02:14 PM
Dyna i chi golled. Roedd llais mawr gyda fe. Mae Cymru'n dlotach wlad am golli'r fath dyn yn amlwg. Dymuniadau gorau i'w ffrindiau a'i deulu.

WaspInWales
09-05-2011, 11:16 PM
Penblwydd Cawr oedd o heddiw, fy ffrindiau ...
<iframe width="480" height="390" src="http://www.youtube.com/embed/z7y9hBCgtCY" frameborder="0" allowfullscreen></iframe>

Simply amazing