View Full Version : Gweilch yn goresgyn bechgyn Trefiso!
Western Osprey
31-03-2012, 08:05 PM
Oce oce... wy'n gwybod taw dim ond Trefiso bach oedd gyda ni heno, ond da gweld i Gweilch yn whare tamaid o rygbi a chael y pwynt bonws. Sa i wedi joio watsho nhw cymaint ers sbel. Da iawn bechgyn!
trueni bod nhw wedi methu neud e yn y cwpan heineken
Kelf_
03-04-2012, 03:21 PM
nes i fwynhau e 'fyd. Falle bod ein disgwyliadau o'r gweilch wedi disgyn rhywfaint fel bod ni'n hapus i ennill gyda hwna, ond dwi'n ffindo fe'n haws i gefnogi'r bois yma - beck, webb, tipuric ayyb - na pan odd da ni tim o ser o'n i'n disgwyl i fod yn anhygoel pob wythnos...ond an anaml iawn yn actually clicio. Gobeithio gewn ni grwp ok-ish am yr heineken flwyddyn nesa a sypreisio ambell tim.
vBulletin® v3.8.4, Copyright ©2000-2013, Jelsoft Enterprises Ltd.