View Full Version : Llenyddiaeth neu geiriau Gymraeg
Dwi'n edrych am fach o ysbrydoliaeth am tattoo newydd, fellu dwi'n edrych am geiriau enwog/neis/pwysig yn y Gymraeg. Yr unig problem yw dydw i ddim wedi darllen unrhyw farddoniaeth neu llenyddiaeth Gymraeg ers yr ysgol ( a hyd yn oed yn yr ysgol doeddwn i ddim yn darllen llawer!)
O'n i'n clywed am rhywyn naeth gael tri gair cyntaf Caliban or Tempest gan Shakespear wedi tattoo-io arnyn nhw 'be not afeared' neu rhywbeth. Os oes unrhyw syniadau ganddoch chi, gyfeillion, fyddwn i'n hoffi clywed nhw.
Yr unig peth dwi'n gallu meddwl am ar hyn o bryd yw flippin Rapsgaliwn... rapwir gorau'r byd, mae popeth mae'n deud yn odli pop hyd. Tattoo gwael, mae'n debyg.
The Dude
15-03-2012, 05:36 PM
Tre, beth am ''Ry'n ni yma o hyd, er gwaetha pawb a phopeth'' ?
Yn Saesneg; "We're still here, despite the worst of everyone and everything.
Can i Gymru nid mond Llanelli. Fydd o'n bendant fydd fi yn canu hwn os fydd Cymru yn enill Dydd Sadwrn.
Tre, beth am ''Ry'n ni yma o hyd, er gwaetha pawb a phopeth'' ?
Yn Saesneg; "We're still here, despite the worst of everyone and everything.
Can i Gymru nid mond Llanelli. Fydd o'n bendant fydd fi yn canu hwn os fydd Cymru yn enill Dydd Sadwrn.
Fi'n hoff iawn or gan, ond sut alla i gael tatoo Dafydd Iwan tra'n aros mor cwl a dwi nawr?
Prysiau
16-03-2012, 09:05 AM
Beth am "Moron"?
Beth am "Moron"?
http://thechive.files.wordpress.com/2010/10/male-tramp-stamp-2.jpg
Prysiau
16-03-2012, 09:09 AM
http://failatfailing.com/upload/425-2051/bad-monkey-tattoo.jpg
llewelyn85
17-03-2012, 10:55 AM
"nid yn fy enw i" - gyda arwydd tafod y gymdeithas
"cenedl heb iaith yw cenedl heb galon" - cyfieithiad a nation without a language is a nation without a heart.
Kelf_
19-03-2012, 01:31 PM
MAe cerdd Saunders Lewis - "buchedd garmon" yn gret. 'Hon', Fy N, Cilmeri - lot o gerddi gret. Siwr fod y geiriau ar lein rhywle.
O'r mabinogi: "A fo ben, bid bont".
Ond, byswn i'n dewis rhywbeth o'r gododdin, er mae'r gymraeg yn eitha anodd - hen iawn! (600AD)
Greddf gwr, oed gwas
Gwryd amddias
(in might a man, a youth in years. Of violent bravery.)
Men yd glawdd ei offer ei bwyth maddau
Ni bu hyll dihyll na heu dihau
(where his weapons struck there was no requittal - he never wavered, never faltered.)
Fy hoff linellau:
trychant eurdorchog a grysiasant
yn amwyn breithell, bu edrywant.
cyn ryladded wy, wy lladdasant,
a hyd orffen byd edmyg fyddant.
ac o'r sawl a aetham o gyd-garant,
tru, namyn un gwr nid enghysant.
three hundred gold-torqued warriors attacked
defending their land, there was slaughter.
although they were slain, they slew,
and until the end of the world they shall be praised.
and all of us, kinsmen, who went,
alas, save one man, none escaped.
Caru'r llinellau ola - nhw yw'r rheswm dwi'n gweithio ar nofel graffig o'r gerdd - i neud yn siwr fod yr arwyr yma yn gael eu edmygu eto.
Dim yn siwr os oes unrhywbeth fyna bydden addas am tattoo....ond da siarad am rhywbeth heblaw rygbi!
(
cornelius
19-03-2012, 02:31 PM
Mam bach pryd ddaru ti enill y Gadair a'r Goron Kelf?
Bydd Sox mwy hapus gyda llinell o gerdd mae yn ei adnabod?
"Dau gi bach"!!!!!!!!!!
vBulletin® v3.8.4, Copyright ©2000-2013, Jelsoft Enterprises Ltd.